P-05-700 – Ariannu Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Huw Rhys Norvill ar ôl casglu 33 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Mae llawer o bobl sy'n dymuno cael addysg y tu hwnt i lefel israddedig bellach yn cael eu rhwystro gan y ffaith ei bod yn ofynnol iddynt gael benthyciad banc er mwyn ariannu eu hastudiaethau.
Credaf y dylai'r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau y gall pobl sy'n gweithio fforddio i barhau gyda'u haddysg. Ar hyn o bryd, mae hynny'n arwain at ddyled fawr, a hynny ond os ydynt yn gymwys ar gyfer benthyciad banc.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Tor-faen
· Dwyrain De Cymru